Numbers 23

1A dyma Balaam yn dweud wrth y brenin Balac, “Adeilada saith allor yma, a paratoi saith tarw a saith hwrdd i'w haberthu.” 2Dyma Balac yn gwneud hynny, a dyma'r ddau ohonyn nhw yn aberthu tarw a hwrdd ar bob un o'r allorau. 3Yna dyma Balaam yn dweud wrth Balac, “Aros di yma wrth ymyl yr aberthau sy'n cael eu llosgi. Dw i'n mynd i weld os ydy'r Arglwydd am ymateb. Bydda i'n rhannu gyda ti beth bynnag fydd e'n ddweud wrtho i.” A dyma Balaam yn mynd i ben bryn anial. 4A dyma Duw yn dod ato. A dyma Balaam yn dweud wrth Dduw, “Dw i wedi codi saith allor, ac wedi aberthu tarw a hwrdd ar bob un ohonyn nhw.” 5A dyma'r Arglwydd yn rhoi neges i Balaam, “Dos yn ôl at Balac a rhoi'r neges yma iddo.” 6Pan aeth Balaam yn ôl roedd y brenin ac arweinwyr Moab yn dal i sefyll yno wrth ymyl yr aberthau oedd yn cael eu llosgi. 7A dyma'r neges roddodd Balaam iddo:

“Daeth Balac â fi yma o Aram;
daeth brenin Moab a fi o fynyddoedd y dwyrain:
‘Tyrd i felltithio Jacob i mi,’ meddai;
‘tyrd i gondemnio Israel!’
8Ond sut alla i felltithio pan mae Duw ddim yn gwneud?
Sut alla i gondemnio'r rhai dydy'r Arglwydd ddim am eu condemnio?
9Dw i'n eu gweld nhw o ben y creigiau.
Dw i'n eu gwylio nhw o ben y bryniau.
Maen nhw'n bobl unigryw,
yn wahanol i'r gwledydd eraill.
10Mae Jacob fel llwch – pwy all eu cyfrif?
Oes rhywun yn gallu cyfrif eu chwarter nhw?
Dw i am farw fel un wnaeth y peth iawn.
Dw i am i'r diwedd i mi fod fel eu diwedd nhw.”

11A dyma Balac yn dweud wrth Balaam, “Beth wyt ti wedi ei wneud? Dw i wedi dod â ti yma i felltithio'r gelyn! A dyma ti'n eu bendithio nhw!” 12A dyma Balaam yn ateb, “Rhaid i mi fod yn ofalus fy mod i ddim ond yn dweud beth mae'r Arglwydd wedi ei roi i mi.”

Ail neges Balaam

13Felly dyma Balac yn dweud wrtho. “Tyrd i rywle arall i edrych arnyn nhw. Fyddi di ddim ond yn gweld rhai ohonyn nhw. Melltithia'r rheiny i mi.” 14Felly dyma Balac yn mynd â Balaam i Gae Soffim (sef ‛Cae'r Gwylwyr‛) ar ben Mynydd Pisga. A dyma fe'n codi saith allor yno, ac yn aberthu tarw a hwrdd ar bob un. 15Dyma Balaam yn dweud wrth Balac, “Aros di yma wrth ymyl yr aberthau sy'n cael eu llosgi, tra dw i'n mynd i gyfarfod yr Arglwydd draw acw.”

16A dyma'r Arglwydd yn cyfarfod gyda Balaam, ac yn rhoi neges iddo ei rhannu gyda Balac. 17Pan ddaeth Balaam ato, roedd y brenin ac arweinwyr Moab yn dal i sefyll wrth ymyl yr aberthau oedd yn cael eu llosgi. A dyma Balac yn gofyn iddo, “Beth ddwedodd yr Arglwydd?” 18A dyma'r neges roddodd Balaam iddo,

“Saf ar dy draed, Balac, a gwrando.
Gwranda'n ofalus, fab Sippor:
19Nid dyn sy'n dweud celwydd ydy Duw.
Dydy e ddim yn berson dynol sy'n newid ei feddwl.
Ydy e'n dweud, a ddim yn gwneud?
Ydy e'n addo, a ddim yn cyflawni? Na!
20Mae e wedi dweud wrtho i am fendithio;
Mae e wedi bendithio, a dw i ddim yn gallu newid hynny.
21Dydy e'n gweld dim drwg yn Jacob;
nac yn gweld dim o'i le ar Israel.
Mae'r Arglwydd eu Duw gyda nhw;
mae e wedi ei gyhoeddi yn frenin arnyn nhw.
22Duw sydd wedi dod â nhw allan o'r Aifft;
mae e'n gryf fel ych gwyllt.
23Does dim swyn yn gwneud drwg i Jacob,
na dewiniaeth yn erbyn Israel.
Rhaid dweud am Jacob ac Israel,
‘Duw sydd wedi gwneud hyn!’
24Bydd y bobl yn codi fel llewes,
ac yn torsythu fel llew.
Fyddan nhw ddim yn gorwedd nes bwyta'r ysglyfaeth,
ac yfed gwaed y lladdfa.”

25A dyma Balac yn dweud wrth Balaam, “Paid â'i melltithio nhw o gwbl, a paid â'i bendithio chwaith.” 26Ond dyma Balaam yn ei ateb, “Wnes i ddim dweud fod rhaid i mi wneud beth mae'r Arglwydd yn ddweud?”

Trydydd neges Balaam

27Yna dyma'r brenin Balac yn dweud wrth Balaam, “Tyrd, gad i mi fynd â ti i rywle arall. Falle y bydd Duw yn gadael i ti eu melltithio nhw o'r fan honno.” 28A dyma Balac yn mynd â Balaam i ben Mynydd Peor, sy'n edrych dros yr anialwch. 29A dyma Balaam yn dweud wrth Balac, “Adeilada saith allor i mi yma, a paratoi saith tarw a saith hwrdd i'w haberthu.” 30Dyma'r brenin Balac yn gwneud hynny, ac yn aberthu tarw a hwrdd ar bob un o'r allorau.

Copyright information for CYM